Cerdyn Post 'Ynyslas' - Mary Lloyd Jones
Pris arferol
£1.00
Mae treth yn gynwysedig.
Mae'r cerdyn post hwn wedi'i atgynhyrchu'n arbennig ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i gyd-fynd ag arddangosfa Haenau | Layers; mae'n cynnwys paentiad trawiadol yr artist, 'Ynyslas'.
Mae Mary Lloyd Jones yn un o artistiaid pwysicaf Cymru. Cafodd ei geni ym 1934 ym Mhontarfynach ac fe'i hyfforddwyd yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae hi wedi bod yn arddangos ei gwaith ers y 1960au. Dros y blynyddoedd, mae ei gwaith wedi mynd â hi i bob cwr o'r byd, ond i dirweddau Ceredigion y mae hi'n dychwelyd am ysbrydoliaeth. Gallwch ymweld ag arddangosfa 'Mary Lloyd Jones: Haenau | Layers' yn yr Oriel Gregynog yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 25.7.26 a 10.4.27.