'Workhouses of Wales and the Welsh Borders' gan Peter Higginbotham

'Workhouses of Wales and the Welsh Borders' gan Peter Higginbotham

Pris arferol £19.99 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.
Sefydliadau oedd yn cynnig llety a chyflogaeth i'r sawl nad oeddent yn gallu cynnal eu hunain oedd tlotai. Dyma lyfr darluniedig am dlotai Cymru a siroedd ffiniol Swydd Gaerlleon, Sir Amwythig, Sir Henffordd a Swydd Gaerloyw. Mae'r ddelwedd o'r tloty yn aml wedi'i liwio gan awduron fel Charles Dickens. Ond pa mor debyg i'r tloty go iawn oedd y portreadau hyn? Ble y lleolwyd y tlotai? Mae'n syndod i ddarganfod y bu adeilad cyfarwydd, bellach wedi cael ei bwrpasu fel fflatiau, neu'n rhan o ysbyty, yn dloty ar un adeg.
Gyda 120 darlun du a gwyn.

Mae Peter Higginbotham wedi bod yn ymchwilio tlotai ers bron i 20 mlynedd ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau am y pwnc. Y mae wedi ymddangos sawl gwaith yn y cyfryngau, yn cynnwys ar raglenni 'Who do you think you are?' ac 'heir Hunters'.