'Wolf Hall' gan Hilary Mantel

'Wolf Hall' gan Hilary Mantel

Pris arferol £10.99 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Dyma'r llyfr cyntaf yn nhrioleg 'Wolf Hall' gan Hilary Mantel, sydd bellach wedi'i throi'n gyfres deledu, ac wedi ennill Y Wobr Booker ddwywaith.

Mae'r nofel wych hon yn dod â byd moethus, creulon y Tuduriaid yn fyw. Dyma gefndir i esgyniad Thomas Cromwell, bachgen isel ei enedigaeth, swynwr, bwli, meistr cynllwynion, ac, yn olaf, y mwyaf pwerus o blith coutiers Harri VIII, a oedd yn benderfynol o ddod â Lloegr i oes fodern. Wolfhall oedd cartref y teulu Seymour, ac o fan hyn y daeth Jane Seymour, trydedd wraig Harri VIII.

Mae 'Trioleg Wolf Hall' wedi'i haddasu'n ddramâu llwyfan hynod lwyddiannus. Mae'r ddau lyfr cyntaf, 'Wolf Hall' a 'Bring up the Bodies' wedi'u trawsnewid yn gyfres deledu BBC sydd wedi ennill sawl gwobr, gyda'r cast yn dychwelyd yn y gyfres gloi hir-ddisgwyliedig 'Wolf Hall: The Mirror & the Light'.

Mae Hilary Mantel yw awdur dwy ar bymtheg o lyfrau, gan gynnwys 'A Place of Greater Safety', 'Beyond Black', 'Giving Up the Ghost' a'r casgliad o straeon byrion 'The Assassination of Margaret Thatcher'.  Enillodd ei nofel ddiweddaraf, 'The Mirror & the Light', Wobr Walter Scott am Ffuglen Hanesyddol, tra bod 'Wolf Hall' a 'Bring Up the Bodies' wedi ennill Y Wobr Booker.  Yn 2014, cafodd ei phenodi'n Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig. Bu farw yn saith deg oed yn 2022.

Aduniad: Beiblau Mawr Harri’r VIII a Thomas Cromwell - Am y tro cyntaf ers bron i 500 mlynedd, mae Beiblau personol Harri’r VIII a’i brif weinidog, Thomas Cromwell, wedi dod at ei gilydd mewn arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 21 Mehefin 2025 – 22 Tachwedd 2025.