Bordeaux Coch (Cefndir Gwyn) Print nifer cyfyngedig heb mownt gan Rhys Bevan Jones
Mae Rhys yn gweithio ac ymchwilio ym maes seiciatreg
yng Nghaerdydd, ond mae hefyd wedi ennill llwyddiant yn y byd celf. Mae
ganddo ddiddordeb yn y berthynas rhwng seicoleg/seicatryddiaeth a'r byd
gweledol, ac mae ei argraffiadau yn seiliedig ar themâu fel cyflwr a
salwch meddwl a hunaniaeth. Mae wedi arddangos ei waith yn Llundain a
Chymru, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol ac arddangosfa flynyddol
'Association of Illustrators' Prydain, ac wedi derbyn nifer o gomisiynau
ar gyfer cylchgronau a llyfrau ledled y wlad.
Mae wedi astudio yng
ngholegau celf megis St Martins a Kingston yn Llundain, lle ennillodd
gradd dosbarth cyntaf. Mae bellach yn ymchwilio i'r defnydd o ddarluniau
ac aml-gyfryngau yn y byd ymchwil, therapi ac addysg ar gyfer cleifion,
meddygon, a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Maint y Print: 37cm x 27cm