Mewn Geiriau Eraill - Thesawrws i Blant gan D Geraint Lewis

Mewn Geiriau Eraill - Thesawrws i Blant gan D Geraint Lewis

Pris arferol £12.99 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Mae'r thesawrws cynhwysfawr hwn, efo darluniau lliwgar, ar gyfer plant ysgolion cynradd ac yn cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2/3, yn addas i blant 9-11 oed. Mae'n llyfr sydd yn cynnig nifer o eiriau newydd yn lle gair cyfarwydd, a hefyd yn dysgu plant sut i ddefnyddio thesawrws a geiriadur. Mae'r llyfr wedi cael eu trefnu efo'r gair mwyaf cyfarwydd yn ymddangos yn brint coch, disgrifiad o'r gair, gan nodi os ydy'n ferf, ansoddair, gwrywaidd neu fenywaidd, a hefyd, brawddeg sydd yn dangos sut mae'r gair yn gallu cael ei ddefnyddio. Cyfrol hanfodol i'w defnyddio yn yr ysgol a gartref. Mae hon yn gyfrol clawr caled.