'The Nanteos Grail: The Evolution of a Holy Relic' gan John Matthews, Ian Pegler a Fred Stedman-Jones
Powlen fasarn bren ganoloesol yw Cwpan Nanteos, a arddangosir i'r cyhoedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Llestr
pren caled bas heb ddolenni â gwaelod llydan gwastad ydyw. Credir iddi
fesur 10cm tal wrth 12cm lled yn wreiddiol, ond o ganlyniad i ddifrod
sylweddol ar hyd y blynyddoedd, ychydig yn llai na hanner o'r bowlen
sy'n goroesi erbyn hyn.
Dyma lyfr sy'n olrhain hanes y Cwpan
o'i ymddangosiad cyntaf yn y Canol Oesoedd, ei ladrad a hanes hynod ei
adfeddiant oedd yn brif stori newyddion a drafodwyd ar raglen Crimewatch
BBC, hyd at hanesion pwerau'r cwpan i wella cyflyrau'r rhai fyddai'n
yfed oddi wrtho. Llyfr fydd yn apelio at rai sydd â diddordeb mewn
dirgeloedd hanesyddol.
Ar ryw adeg, fe'i gysylltwyd ag un o'r storïau mwyaf oesol erioed- hwnnw'r Greal Sanctaidd.