Sebon 'Cennin Pedr y Gwanwyn' gan Myddfai

Sebon 'Cennin Pedr y Gwanwyn' gan Myddfai

Pris arferol £8.99 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.
Croesawch heulwen y gwanwyn Cymreig i'ch cartref gyda'r bar sebon melyn moethus hwn, sydd â phersawr 'Cennin Pedr y Gwanwyn', mae’r sebon wedi'i lapio mewn ffilm fioddiraddadwy, ac yn ecogyfeillgar, ychwanegiad gwych at ystafell ymolchi di-blastig. Mae’r cynnyrch hyn wedi cael eu gwneud yng Nghymru heb SLS a SLES, hefyd mae’r cynnyrch yn gyfeillgar i fegan, ac nid yw'n cynnwys unrhyw olew palmwydd.

Pwysau bras- 220g

Mae Myddfai yn fenter gymdeithasol o Sir Gaerfyrddin sy'n cynnig nwyddau ymolchi ac anrhegion moethus. Gyda dros ddegawd o brofiad, maent yn ymroddedig i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned. Trwy gefnogi'r fenter, rydych nid yn unig yn maldodi'ch hun ond hefyd yn cyfrannu at eu cenhadaeth o drawsnewid bywydau. Yn 2010, fe ddechreuon nhw’r daith gyda gweledigaeth i greu cyfleoedd i bobl ac anghenion yn y gymuned leol, gan ddarparu profiadau gwaith ystyrlon, ac i feithrin hyder. Eu hymrwymiad yw cefnogi pobl sydd yn agored i niwed, maent yn cyflogi aelodau tîm sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu, a sicrhau mynediad cyfartal i gyfleoedd gwaith cyflogedig. Maent hefyd yn cydweithio â sefydliadau cyfagos sy'n cynnig lleoedd byw â chymorth i oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol.