'Meic Stevens - Caniadau'
Pris arferol
£24.99
Mae treth yn gynwysedig.
Mae caneuon Meic Stevens wedi bod yn drac sain i'r genedl ers 60 mlynedd. Dyma gasglu geiriau ei gerddi a'i ganeuon yn y Gymraeg a'r Saesneg ynghyd, a'u cofnodi gyda'i gilydd am y tro cyntaf. Mae'r llyfr yn gronicl o gerddi a chaneuon oes gan y 'Swynwr o Solfach' sy'n un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol y Gymru gyfoes sydd ohoni.
Mae 2022 yn flwyddyn arwyddocaol i Meic Stevens wrth iddo droi'n 80 mlynedd oed. Dyma gyfrol deilwng i ddathlu'r garreg filltir bwysig hon.