Mat-diod y Mabinogi 'Y March Hud'
Mat-diod sglein uchel, cefn corc, gydag atgynhyrchiad o ddarluniau cain Margaret Jones, sy'n seiliedig ar straeon y Mabinogi. Mae 'Y March Hud' yn portreadu'r ceffyl arallfydol y mae'r brydferth Rhiannon yn ei farchogaeth. Mae Pwyll yn syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â Rhiannon, ond mae'r ceffyl hud yn carlamu'n gyflymach na cheffylau marchogion Pwyll, fel nad allan nhw ddal i fyny â hi.
Hefyd yn y gyfres: Drudwy Branwen, Priodas Branwen, Lleu Llaw Gyffes, Gwydion y Dewin, Hud dros Ddyfed
Credir iddynt ddyddio o ddiwedd y 11eg ganrif a'r 12fed ganrif, mae straeon y Mabinogion i'w cael yn y naill neu'r llall lawysgrif canoloesol y Llyfr Gwyn Rhydderch (c. 1350) a Llyfr Coch Hergest, (oddeutu 1382-1410), a rhai'n ymddangos yn y ddwy. Y farn gyffredinol yw bod y straeon yn gynharach na'r dystiolaeth sydd wedi goroesi mewn llawysgrifau.
Linc i Lyfr Gwyn Rhydderch wedi'i digideiddio gan LlGC: