'Lleuadau Llawn' - Calendr 2027 gan Lizzie Spikes
Pris arferol
£12.00
Mae treth yn gynwysedig.
Gan ddefnyddio ei steil unigryw, mae Lizzie wedi creu’r calendr 2027 hyfryd hwn o faint A4 (sy’n cyfateb i ddwy ddalen A4 portread pan wedi'i agor yn llawn). Mae’n cynnwys 12 darluniad newydd sydd wedi’u hysbrydoli gan rai o’r enwau traddodiadol a roddwyd i’r lleuad lawn gan ddiwylliannau gwahanol. Mae cysylltiad cryf rhwng lleuadau llawn a’r tymhorau, ac mae’r enwau’n cyfleu naws y mis y maent yn perthyn iddo.
Mae’r calendr hwn sydd wedi’i rwymo â styffylau, wedi’i argraffu ar bapur di-sglein 200g, gyda gorchudd 350g a thwll i’w hongian.