Cerdyn post 'Blodeuwedd' gan Natalia Dias
Atgynhyrchwyd y cerdyn post hwn â chynllyn 'Blodeuwedd' gan Natalia Dias yn arbennig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dewiswyd y gwaith celf hwn, sydd wedi'i wneuthurio o borslen a derw ar gyfer Gwobr Bwrcasu CASW (CASW Purchase Prize) yn 2022. Sefydlwyd y Wobr Bwrcasu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004. Bob blwyddyn gyda chyllid o £2,000, dewisir eitem(au) gan guradur amgueddfa neu oriel leol i'w derbyn i'w chasgliad.
Dadorchuddiwyd arddangosfa gyffrous newydd yn ddiweddar sy'n dathlu eisiamplau o'r Celf gyfoes o Gymru a gedwir yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynnwys detholiad o weithiau celf sy'n dyddio o'r cyfnod 1945 hyd yr oes bresennol, wedi'u curadu yn arbennig. Gellir ymweld â'r arddangosfa 'Cyfoes' yn Oriel Gregynog y Llyfrgell am ddim, o 28ain Hydref 2023 hyd 23ain Mawrth 2024.