'A Memoir of My Former Self: A Life in Writing' gan Hilary Mantel
Casgliad o ysgrifennu ffeithiol Hilary Mantel, a
gyhoeddwyd ar ôl ei marwolaeth yn 2022. Nid cofiant traddodiadol yw hwn ond
casgliad o'i newyddiaduraeth, ei thraethodau a'i darlithoedd dros bedwar
degawd, gan gwmpasu pynciau amrywiol o'i phlentyndod, thrafferthion iechyd, barn
ar ffilm, hanes ac awduron, gan gynnig cipolwg ar ei bywyd a'i gwaith.
O'i phlentyndod unigryw i'w diddordeb mewn
Thomas Cromwell a dyfodd i fod yn Drioleg Wolf Hall, mae 'A Memoir of My Former
Self' yn datgelu siâp bywyd Hilary Mantel yn ei geiriau disglair ei hun.
Aduniad: Beiblau Mawr Harri’r VIII a Thomas Cromwell - Am y tro cyntaf ers bron i 500 mlynedd, mae Beiblau personol Harri’r VIII a’i brif weinidog, Thomas Cromwell, wedi dod at ei gilydd mewn arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 21 Mehefin 2025 – 22 Tachwedd 2025.