
Sebon 'Cariad' gan Myddfai
Dewch allan â'ch ochr synhwyraidd gyda'r bar sebon pinc hirhoedlog hwn, wedi'i arogli'n ofalus gydag olew hanfodol oren efo persawr rhosyn, mae’r sebon
wedi'i lapio mewn ffilm fioddiraddadwy, ac yn ecogyfeillgar, ychwanegiad
gwych at ystafell ymolchi di-blastig. Mae’r cynnyrch hyn wedi cael eu
gwneud yng Nghymru heb SLS a SLES, hefyd mae’r cynnyrch yn gyfeillgar i
fegan, ac nid yw'n cynnwys unrhyw olew palmwydd.
Pwysau bras- 85g
Mae Myddfai yn fenter gymdeithasol o Sir Gaerfyrddin sy'n cynnig nwyddau ymolchi ac anrhegion moethus. Gyda dros ddegawd o brofiad, maent yn ymroddedig i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned. Trwy gefnogi'r fenter, rydych nid yn unig yn maldodi'ch hun ond hefyd yn cyfrannu at eu cenhadaeth o drawsnewid bywydau. Yn 2010, fe ddechreuon nhw’r daith gyda gweledigaeth i greu cyfleoedd i bobl ac anghenion yn y gymuned leol, gan ddarparu profiadau gwaith ystyrlon, ac i feithrin hyder. Eu hymrwymiad yw cefnogi pobl sydd yn agored i niwed, maent yn cyflogi aelodau tîm sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu, a sicrhau mynediad cyfartal i gyfleoedd gwaith cyflogedig. Maent hefyd yn cydweithio â sefydliadau cyfagos sy'n cynnig lleoedd byw â chymorth i oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol.