Cerdyn cyfarch 'Welsh Costumes' gan John Cambrian Rowland
Atgynhyrchiad o'r ddelwedd 'Welsh Costumes' gan yr artist Cymreig John Cambrian Rowland ar ffurf cerdyn post. Wedi'i gomisiynu'n arbennig gan y Llyfrgell Genedlaethol i gyd-daro
â'i harddangosfa 'Dim Celf Cymreig-No Welsh Art' (16/11/24-6/9/25), ac
yn unigryw i'r Llyfrgell, pa ffordd well o rannu cofrodd o'r
arddangosfa?
Mesuriadau: oddeutu 10.5cm x 14.75cm.
Ganwyd John Cambrian Rowland ym mhentref Lledrod, Ceredigion, gorllewin Cymru ym 1819. Arferai gael ei noddi gan fonheddwyr lleol, gan teithio siroedd Ceredigion, Penfro a Caerfyrddin, a Maesyfed yn sgil ei waith. Roedd ei arddull yn nodweddiadol o arlunwyr artisan yr oes, ond yn wahanol i'w gyfoedion, a ddisgynnodd i dlodi o ganlyniad i dwf ffotograffiaeth ym 1839, addasodd ei arddull i ddiwallu'r chwant newydd.