Cerdyn cyfarch 'Bellringer of Caernarvon in costume of trade' gan John Cambrian Rowland
Atgynhyrchiad o'r ddelwedd 'Bellringer of Caernarvon in costume of trade' gan yr artist Cymreig John Cambrian Rowland ar ffurf cerdyn post. Wedi'i gomisiynu'n arbennig gan y Llyfrgell Genedlaethol i gyd-daro
â'i harddangosfa 'Dim Celf Cymreig-No Welsh Art' (16/11/24-6/9/25), ac
yn unigryw i'r Llyfrgell, pa ffordd well o rannu cofrodd o'r
arddangosfa?
Mesuriadau: oddeutu 10.5cm x 14.75cm.
Ganwyd John Cambrian Rowland ym mhentref Lledrod, Ceredigion, gorllewin Cymru ym 1819. Arferai gael ei noddi gan fonheddwyr lleol, gan teithio siroedd Ceredigion, Penfro a Caerfyrddin, a Maesyfed yn sgil ei waith. Roedd ei arddull yn nodweddiadol o arlunwyr artisan yr oes, ond yn wahanol i'w gyfoedion, a ddisgynnodd i dlodi o ganlyniad i dwf ffotograffiaeth ym 1839, addasodd ei arddull i ddiwallu'r chwant newydd.