Cerdyn cyfarch gan Averil Rees 'Night time Estuary'
Pris arferol
£3.50
Mae treth yn gynwysedig.
Atgynhyrchiad o waith gwreiddiol gan yr artist lleol Averil Rees yw'r ddelwedd ar y cerdyn cyfarch gydag amlen yma, sydd wedi'i gynllunio fel bod y derbynnydd yn gallu'i mowntio a'i fframio os yw'n dymuno.
Gwag tu mewn ar gyfer eich neges eich hun
Maint y cerdyn oddeutu: 210mm x 100mm
Yn gyd-enillydd gwobr Arddangosfa Agored yr Academi Frenhinol Gymreig yn 2012, ac yn arddangos ei gwaith yn aml, dysgodd Averil ei hun i baentio gyda'i llaw chwith wedi i waedlif ar yr ymennydd barlysu ei hochr dde pan oedd hi'n 43.