Tracing your Ancestors Through Family Photographs- a complete guide for family and local historians

Tracing your Ancestors Through Family Photographs- a complete guide for family and local historians

Pris arferol £14.99 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Dyma ganllaw cynhwysfawr i ddyddio, dadansoddi a deall hen ffotograffau teulu, gan Jayne Shrimpton, sy'n defnyddio dros 150 ffotograffau i ddangos sut y gallan nhw daflu goleuni ar y gorffennol ac ar fywydau'r unigolion y maen nhw'n eu portreadu. Mae bron pob hanesydd teulu a lleol yn gweithio gyda ffotograffau, er na werthfawrogir bob amser, y cyfoeth o wybodaeth hanesyddol a phersonol y maen nhw'n eu cynnwys.

Mewn arweinlyfr cynnil ond cyflawn, mae'r awdur yn disgrifio'r gwahanol mathau o ffotograff ac yn esbonio sut i'w dyddio a'u dehongli ar sail y dillad a'r arddull, gan daflu goleuni ar amgylchiadau a chefndir eu testun. Gydag adrannau yn edrych ar achlysuron arbennig- bedyddion, priodasau, angladdau- cyfnod rhyfel, gwyliau a'r byd gwaith a sut i adnabod y bobl yn y lluniau, sut i ddarganfod mwy o ffotograffau teiulu trwy gysylltiadau, archifau a'r rhngrwyd, a sut i'w gwarchod ar gyfer cenhedloedd i ddod.

tt 224
Cyhoeddwyd 9fed Ionawr 2014
Rhyddhawyd diwethaf 1af Mawrth 2021