'Yr Apêl-The Appeal 1923-24:  The Remarkable story of the Welsh Women's Peace Petition' - Wedi'i olygu gan Jenny Mathers a Mererid Hopwood

'Yr Apêl-The Appeal 1923-24: The Remarkable story of the Welsh Women's Peace Petition' - Wedi'i olygu gan Jenny Mathers a Mererid Hopwood

Pris arferol £9.99 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Llyfr dwyieithog diddorol wedi'i olygu gan Jenny Mathers a Mererid Hopwood, sy'n dadlennu hanes rhyfeddol Deiseb Heddwch canmlwydd oed,  7 milltir mewn hyd, gafodd ei llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymreig a'i hanfon i  America.  Dyma stori gwir menywod o bob cefndir a wnaeth herio awdurdodaeth.

Bydd 'The Appeal' yn cael ei lansio am 5pm ar 3ydd Tachwedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o Ŵyl Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth, Hawlio Heddwch.

 Ar 5ed Ebrill, 2023, dychwelwyd y Ddeiseb Heddwch  i Gymru, gan gofnodi canrif o ymgyrch Cymreig dros heddwch wedi'i arwain gan fenywod Cymru. Ers 1923, gofalwyd am y Ddeiseb, ac fe'i harddangoswyd gan Amgueddfa Genedlaethol Hanes America, yn Washington DC. Dechreuodd ar ei siwrnai pan ymgymerwyd ag ymgyrch dros heddwch byd gan grŵp o fenywod Cymru, 5 mlynedd wedi i arswyd y Rhyfel Byd Cyntaf chwalu Ewrop.

Cyrrhaeddodd y gist a'r ddeiseb i groeso cynnes yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan y bobl oedd yn ymwneud â Phartneriaeth Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, sydd wedi gweithio'n ddiwyd i'w dychwelyd i'w chartref, gyda'r bwriad o sicrhau mynediad iddi i bobl Cymru.

Dros y flwyddyn nesaf, mi fydd yn Ddeiseb yn cael ei chatalogio a'i digido, a bydd ar gael i'r cyhoedd drawsgrifio ei chynnwys drwy brosiect torfoli. Bydd yn cael ei harddnagos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru- Sain Ffagan ac Amgueddfa Wrecsam.