Kyffin Williams - Bro a Bywyd/His Life, His Land

Kyffin Williams - Bro a Bywyd/His Life, His Land

Pris arferol £15.95 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.
Dyma bortread i'w drysori o fywyd a bro'r cawr celfyddol Syr Kyffin Williams RA ar achlysur dathlu canmlwyddiant ei eni (1918-2018) - a hynny mewn llun a gair. Roedd John Kyffin Williams yn athrylith o arlunydd, yn wladgarwr ac yn un o brif gymwynaswyr Cymru. Cyhoeddir yr argraffiad newydd hwn o'r gyfrol ddarluniadol hynod boblogaidd hon gyd-fynd â chanmlwyddiant geni Kyffin Williams - portread didwyll gweledol ac ysgrifenedig o'r arlunydd ysbrydoledig. 'Teyrnged yw'r llyfr hwn i gyfaill, i ddyn annwyl, i Gymro glew, i ŵr ffraeth llawn hiwmor ac i grefftwr na welir ei debyg.