'Historic Parks & Gardens in Ceredigion' gan Caroline Palmer

'Historic Parks & Gardens in Ceredigion' gan Caroline Palmer

Pris arferol £12.00 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Elusen gadwraaeth a threftadaeth yw Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru (The Welsh Historic Gardens Trust (WHGT) a sefydlwyd i warchod a diogelu parciau a gerddi hanesyddol Cymru. Mae'r elusen yn ymgyrchu er mwyn cynnal gerddi a pharciau hanesyddol a'u diogelu rhag cynllunio anystyriol a phlannu amhriodol, er budd y cenhedloedd sydd i ddod. Mae gan Gymru nifer o barciau a gerddi godidog sydd gymaint yn rhan o dreftadaeth Gymreig â'r adeiladau a'r trefi ochr yn ochr â nhw.

Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn gyntaf yn 2004. Yn yr ail-argraffiad yma dethlir cyfoeth treftadaeth gerddi Ceredigion a oedd yn perthyn i gartrefi'r boneddigion yn ogystal â'r gerddi cyhoeddus, parciau a thirweddau cynlluniedig. Manylir ar 31 ardd a'u perchnogion, gan gynnwys A-Z o gyfeiriadu grid i 200 leoliad, 97 llun du a gwyn, mapiau a chynlluniau.