'Dafydd Elis-Thomas: Nation Builder' gan Aled Eirug
Pris arferol
£25.00
Mae treth yn gynwysedig.
Hanes bywyd Dafydd Elis-Thomas, (Yr Arglwydd Elis-Thomas o Nant Conwy) y gwleidydd dadleuol a newidiodd wyneb gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Roedd Dafydd Elis-Thomas yn un o ffigurau cyhoeddus mwyaf blaenllaw Cymru yn ystod y pumdeg mlynedd ddiwethaf. Roedd ei yrfa wleidyddol yn ymestyn o gael ei ethol i San Steffan fel AS Plaid Cymru ym 1974, i'w ymddeoliad o'r Senedd yng Nghaerdydd yn 2021, ar ôl gwasanaethu hefyd fel gweinidog yn Llywodraeth Cymru. Fe oedd Llywydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru a 'tad sefydlol' datganoli Cymru.