Llyfr Nodiadau clawr caled A5 'Ponterwyd/Gaia' - Mary Lloyd Jones
Unigryw i Siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfr nodiadau clawr caled maint A5 wedi'i atgynhyrchu'n arbennig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda phaentiad trawiadol 'Ponterwyd/Gaia' gan Mary Lloyd Jones, a thudalennau papur ansawdd uchel â llinellau ar y ddwy ochr. Ceir rhuban du i farcio nodiadau pwysig neu i ddod o hyd i'r dudalen wag nesaf i'w defnyddio.
Dadorchuddiwyd arddangosfa gyffrous newydd yn ddiweddar sy'n dathlu eisiamplau o'r Celf gyfoes o Gymru a gedwir yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynnwys detholiad o weithiau celf sy'n dyddio o'r cyfnod 1945 hyd yr oes bresennol, wedi'u curadu yn arbennig. Gellir ymweld â'r arddangosfa 'Cyfoes' yn Oriel Gregynog y Llyfrgell am ddim, o 28ain Hydref 2023 hyd 23ain Mawrth 2024.