Mwg 'Twm Siôn Cati' gan Valériane Leblond
Pris arferol
£10.00
Mae treth yn gynwysedig.
Mwg hardd â delwedd Twm Siôn Cati - un o enwogion chwedloniaeth Gymraeg a anwyd yn Nhregaron c.1530. Fe'i adwaenir fel Robin Hood Cymreig, a oedd yn dwyn oddi wrth bobl gyfoethog- ond i'w weld yn anghofio rhannu'i ysbeiliau gyda'r tlodion!
Wedi'i ddylunio gan yr artist Ffranco-Gwebecaidd poblogaidd sy'n byw yng Nghymru ac yn siarad Cymraeg, Valériane Leblond. Gellir ei olchi mewn peiriant golchi llestri a'iddefnyddio mewn meicrodon.
Taldra oddeutu: 10cm