Bordeaux Coch (Cefndir Du) Print nifer cyfngedig heb mownt gan Rhys Bevan Jones
Mae Rhys yn gweithio ac ymchwilio ym maes seiciatreg yng Nghaerdydd, ond mae hefyd wedi ennill llwyddiant yn y byd celf. Mae ganddo ddiddordeb yn y berthynas rhwng seicoleg/seicatryddiaeth a'r byd gweledol, ac mae ei argraffiadau yn seiliedig ar themâu fel cyflwr a salwch meddwl a hunaniaeth. Mae wedi arddangos ei waith yn Llundain a Chymru, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol ac arddangosfa flynyddol 'Association of Illustrators' Prydain, ac wedi derbyn nifer o gomisiynau ar gyfer cylchgronau a llyfrau ledled y wlad.
Mae wedi astudio yng ngholegau celf megis St Martins a Kingston yn Llundain, lle ennillodd gradd dosbarth cyntaf. Mae bellach yn ymchwilio i'r defnydd o ddarluniau ac aml-gyfryngau yn y byd ymchwil, therapi ac addysg ar gyfer cleifion, meddygon, a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Maint y Print: 37cm x 27cm