Set chwarae fach 'Adar yr Arfordir ' -  set chwarae gynaliadwy gan Playpress
Set chwarae fach 'Adar yr Arfordir ' -  set chwarae gynaliadwy gan Playpress

Set chwarae fach 'Adar yr Arfordir ' - set chwarae gynaliadwy gan Playpress

Pris arferol £7.50 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Dewch lawr ar lan y môr gyda'r set chwarae 3D adar yr arfordir wych hon gan yr RSPB, sy'n depictio adar môr adnabyddus Prydain fel y pâl, y gwalch y penwaig a'r fulfran lwyd. Gellir troi'r set hefyd yn lygfa arfordirol i chi chwarae gyda'ch ffrindiau pluog newydd.

Mae'r pecyn yn cynnwys 16 darn datodadwy wedi'u gwneuthurio o fwrdd cadarn sy'n cysylltu gyda'i gilydd i ddepictio'r olygfa. Anelir y set chwarae hon at rai 4+ oed

Gwneuthurir eitemau Playpress o fwydion pren sy'n tarddio o ffynhonellau cynaliadwy sy'n eco-gyfeillgar, gwydn a chadarn. Cymrir gofal dros bob elfen o'i gynnyrch, o ddeillio'r deunyddiau hyd at ddylunio a gwneuthurio cyfrifol gan ddefnyddio inciau llysiau a glud dŵr sy'n fegan, biogynaliadwy a chyfeillgar i'r moroedd. Tegan o ansawdd sydd ddim yn costio'r ddaear. Wedi'i gynhyrchu yn y DU.