Y Gwyll - Yr Ail Gyfres

Y Gwyll - Yr Ail Gyfres

Pris arferol £19.99 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.
Drama dditectif, dywyll wedi'i lleoli yn sir Ceredigion yng ngorllewin Cymru yw Hinterland, sy'n dilyn DCI Tom Mathias a DI Mared Rhys wrth iddyn nhw fynd i'r afael â dirgeloedd, hanner-gwir a thrywyddau anghywir. Mae pob pennod 90 munud wedi cael ei hysgrifennu, ei ffilmio a'i darlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar S4C a BBC yn ôl ei gilydd, a bellach mae 'Hinterland' yn cael ei darlledu ar draws 100 o wledydd ac yn denu twristiaid i Geredigion o bob cwr o'r byd. Mae golygfeydd hynod Aberystwyth yn cuddio llyw o bechodau, a gwaith DCI Tom Mathias yw i ymchwilio i ddod o hyd i'r troseddwyr sydd yn peryglu bywydau a bywiolaethau'r gymuned leol. Drwy gydol yr ail gyfres, caiff Mathias ei dynnu mewn i fyd llofruddwyr a'u dioddefwyr. Drama dditectif gelfydd, llawn awyrgylch fydd yn anesmwytho'r gwyliwr, a stori am waed, pridd a pherthyn- dyma hanfod y Gwyll.

Cymraeg
Cymraeg