'Poster Gwrachod Cymru' gan Efa Lois

'Poster Gwrachod Cymru' gan Efa Lois

Pris arferol £25.00 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

'Gwrachod Cymru' yw'r darlun cyfoes A2 (594mm x 420mm) hwn sy'n depictio 30 gwrach chwedlonol Gymreig. Poster heb mownt yw hwn, wedi'i argraffu ar bapur 250gsm sidan.

Arlunydd sy’n dod o Geredigion yw Efa Lois. Mae ei gwaith yn ffocysu’n bennaf ar bositifrwydd, blodau a chwedloniaeth. Efa oedd arlunydd swyddogol Tafwyl yn 2018, 2019 a 2020. Mae ei gwaith wedi ymddangos ar gloriau albymau ac yn ei hamser rhydd mae hi’n cynnal ac yn arlunio blog 'Prosiect Drudwen', sy’n dogfennu menywod anghofiedig hanes Cymru, ac yn arlunio fel rhan o brosiect Rhithganfyddiad.

Ar hyn o bryd, mae Efa wrthi’n ysgrifennu nofel graffeg am Vulcana, y fenyw gref o Oes Fictoria.