Calendr 'Lleuadau Llawn' 2025 gan Lizzie Spikes
Pris arferol
£10.00
Mae treth yn gynwysedig.
Calendr dwyieithog gan yr artist poblogaidd lleol Lizzie Spikes sy'n dangos yr enwau gwahanol niferus sydd wedi'u rhoi ar leuadau llawn gan wahanol ddiwylliannau ar hyd yr oesoedd, ynghyd â dyddiadau'r lleuadau llawn sydd i ddod yn 2025. Yma mae Lizzie wedi casglu a darlunio'r rhai sydd wedi'i hysbrydoli hi mwyaf, nifer o'u plith â chysylltiad Celtaidd, neu'n tarddu o Ogledd America a Saesneg Canoloesol.
Mae'r darluniadau, fel Enwau'r lleuadau, yn portreadu'r tymhorau'n newid, a'r flwyddyn yn mynd rhagddi.
Wedi'i rwymo gyda stwfflau, mae'r calendr maint A4 hwn yn agor i faint A3 i'w arddangos, gyda thwll i'w hongian.
Wedi'i argraffu ar bapur 200gsm heb sglein, a chlawr 350gsm ag effaith sidan.