Blanced Tweedmill gwlân wedi'i ailgylchu patrwm sgwarog 'Keith' coch a llwyd
Blanced Tweedmill gwlân wedi'i ailgylchu patrwm sgwarog 'Keith' coch a llwyd

Blanced Tweedmill gwlân wedi'i ailgylchu patrwm sgwarog 'Keith' coch a llwyd

Pris arferol £27.00 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Blanced chwaethus ac ymarferol wedi'i gwneuthurio o wlân wedi'i ailgylchu, mae hon yn apelio ar sail y gwerthoedd moesegol wrth wraidd y broses o'i chynhyrchu yn ogystal â'i chynllun. Golchwch yn ôl y cyfarwyddiadau ar y label gofal.

Gwlân wedi'i ailgylchu

Maint: 120 x 150cm

Cwmni sy’n gwneuthurio tecstiliau o ansawdd yn y DU, wedi’i lleoli yn Sir Fflint- ond sy’n cyflenwi cwsmeriaid ym mhob ban o’r byd- yw Tweedmill. Mae’r brand wedi mynd o nerth i nerth, ac mae ei nwyddau’n aml yn ymddangos yn y wasg ac mewn cylchgronau a rhaglenni teledu yn benodol. Cadwch lygad wrth wylio eich hoff raglan y tro nesaf! Yn ôl cyfarwyddwr Tweedmill, Bart Ryan Beswick, lleoliad y cwmni ar lannau’r afon Dyfrdwy ger y Castell, sy’n ysbrydoli’r cynlluniau trawiadol, a’i hanfod yw creu nwyddau moethus sy’n cynnig gwerth am arian. Mae Siop y Llyfrgell Genedlaethol bellach ymhlith y sawl sy’n gwerthu ei nwyddau.


Cymraeg
Cymraeg