
'Fi a Joe Allen' gan Manon Steffan Ros
Pris arferol
£5.99
Mae treth yn gynwysedig.
Mae haf 2016 yn dal yn fyw yng nghof cefnogwyr pêl-droed Cymru, ac mae 'Fi a Joe Allen' yn cynnig cyfle i ail-fyw cyffro'r cyfnod hwnnw wrth i ni ddilyn Marc Huws, bachgen o Fangor, sydd ddim â pherthynas da gyda’i dad, er bod hynny'n newid er gwell pan fydd y ddau yn mynd i Ffrainc i ddilyn tîm pêl-droed Cymru. Anelir y llyfr Cymraeg hwn at blant blynyddoedd 7 - 9.
Mae’r awdures Manon Steffan Ros wedi ysgrifennu mwy nag ugain o lyfrau i blant a phobl ifanc, ac mae hi wedi ennill gwobr Tir na n-Og tair gwaith.